****NEWID I'R RHAGLEN A HYSBYSEBIR****
****CHANGE TO ADVERTISED PROGRAMME****
Nid yw Cȏr Meibion Ardudwy yn gallu ymuno â ni ar gyfer y cyngerdd. Cȏr Meibion Prysor fydd yn cymryd eu lle.
Cȏr Meibion Ardudwy are unable to join us for the concert. They will be replaced by Cȏr Meibion Prysor.
Llanbedr Festival Committee is planning a grand celebration concert to mark our 20th birthday.
The concert is to be held at the Dragon Theatre in Barmouth on Saturday 14 June 2025.
Mae Pwyllgor Gŵyl Llanbedr yn cynllunio cyngerdd dathlu mawreddog i nodi ein penblwydd yn 20 oed.
Mae’r cyngerdd i’w gynnal yn Theatr y Ddraig yn y Bermo ddydd Sadwrn 14 Mehefin 2025.


in association with / mewn cysylltiad â
Pris y tocynnau yw £15 ynghyd â ffi archebu fechan. Cliciwch ar y botwm isod i archebu tocynnau.
Tickets are priced at £15 plus a small booking fee. Click on the button below to book tickets.
Mae Gwawr Edwards yn gantores adnabyddus iawn ar lwyfannau Prydain a thu hwnt. Fe ennillodd ysgoloriaeth I astudio’r llais yng ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cyn ennill gradd Meistr dosbarth cyntaf o’r Guildhall yn Llundain. Mae wedi perfformio ar lwyfannau mwyaf Prydain, gan gynnwys Neuadd Albert, Royal Festival Hall, Cadogan Hall, Brimingham Symphony Hall, Bridgewater Hall Manceinion, a Chanolfan y Mileniwm Caerdydd fel unawdydd mewn cyngherddau ac Oratorio i gyfeiliant cerddorfeydd y BBC Concert Orchestra, Liverpool Philharmonic Orchestra a Cherddorfa Genedlaethol Cymru i enwi rhai.
Ar lwyfannau Opera, mae Gwawr wedi perfformio rhan Zerlina allan o Don Giovanni, Mozart, Paquette allan o Candide, Bernstein, Euridice allan o La descente d’Orphée aux Enfers, Charpentier, Donna allan o Rinaldo, Handel, Melpomene allan o Il Parnaso confuso, Gluck, Virtu allan o L’incoronazione di Poppea, Monteverdi, a Rossina allan o Il Barbiere di Siviglia gan Rossini, i gwmnioedd Opera Glyndebourne, Opera de Lorraine, Bampton ac hefyd i Opera Cymru.
Mae Gwawr wedi teithio’r byd yn perfformio yn China, Ewrop, De America a Gogledd America, ac mae hefyd yn gyflwynydd achlysurol ar S4C a BBC Radio Cymru.
Mae ganddi ddwy CD allan or enw ‘Gwawr Edwards’ a ‘Alleluia’ ac un Llyfr a CD I blant o’r enw ‘Mali’.
Gwawr Edwards is a well known singer throughout the UK and further afield. At 17 she was offered a scholarship to study singing at the Royal Welsh College of Music and Drama, Cardiff before gaining a first class Masters degree from the Guildhall School of Music and Drama, London.
She has performed at the Royal Albert Hall, Royal Festival Hall, Cadogan Hall, Birmingham Symphony Hall, Manchester Bridgewater hall, and the Millennium Centre, Cardiff to name a few, accompanied by the Liverpool Philharmonic Orchestra, the BBC Concert Orchestra, London Symphony Orchestra and the National Orchestra of Wales.
In Opera, she has sung the roles of Paquette in Bernstein's Candide, Rossina in Rossini's Il Barbiere di Siviglia, Melpomene in Gluck's Il Parnaso confuso, Euridice in Charpentier's La descente d'Orphée aux Enfers, Zerlina in Mozart's Don Giovanni, Virtu in L’incoronazione di Poppea, Monteverdi, and Donna in Handel's Rinaldo, for companies such as Glyndeboyrne Festival and Tour, Opera de Lorraine, Bampton, and Opera Cymru.
Gwawr has traveled the world entertaining audiences in Asia, Europe, North and South America, and also occasionally presents for S4C and BBC Radio Cymru. Gwawr has two albums out called ‘Gwawr Edwards’ and ‘Alleluia’ and one children’s book and CD called ‘Mali’.
Gwawr Edwards
Cyfeiliant Mena Griffiths ar y piano
Accompanied by Mena Griffiths on the piano


Daw Barry Nudd Powell o Lanfihangel y Creuddyn.
Mae canu wedi bod yn rhan bwysig iawn o'i fywyd ers yn gynnar iawn ac mae o wrth ei fodd yn cystadlu mewn Eisteddfodau ar draws Cymru. Mae'r profiadau a llwyddiannau niferus wedi rhoi sylfaen dda iddo ac yn Eisteddfod Cenedlaethol Tregaron 2022 cipiodd y wobr gyntaf yn y dosbarth Bas/Bariton dros 25 ac 2ail yn yr Hen Ganiadau. Trwy ennill y dosbarth Bas/Bariton cafodd y fraint o fynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa David Ellis, y Rhuban Glas.
Mae llwyddiannau eraill wedi dod trwy ennill yr Her Unawd yng Ngwyl Fawr Aberteifi (Rhuban Glas yr Wyl) ac Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan. Yn ogystal a hyn enillodd yr Her Unawd yn Llandudoch, Cwmystwyth, Trefeglwys a Thrallong.
Braint meddai yw cael bod yn rhan o’r noson arbennig yma i ddathlu eich gwyl.
Barry Nudd Powell lives in Llanfihangel y Creuddyn in Mid Wales.
Singing has been an important part of his life from an early age and very much enjoys competing in Eisteddfods across Wales. These experiences and successes have given him a good foundation and at Tregaron National Eisteddfod 2022 he won the Bass/Baritone over 25 and 2nd in the Welsh Song Solo. By winning the Bass/Baritone class he was honoured to go on and compete for the David Ellis Memorial Blue Riband. Other successes include 1st prize at Gwyl Fawr Aberteifi (Festival’s Blue Riband), Lampeter, Cwmystwyth, Trefeglwys and Trallong.
This year Barry became a member of ‘Cantorion Ger y Lli’, a choir which recently competed in the Welsh Choir semi-finals.
Mae Efan yn frodor o Ledrod, Ceredigion. Mae Efan wedi cystadlu mewn nifer o gystadleuthau rhyngwladol, yn cynnwys Gwobr Rhyngwladol Stuart Burrows, Gwobr Richard Tauber, Gwobr Canwr Ifanc Cymreig Cymry Llundain, Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts, a Chystadleuaeth Rhyngwladol Schloss Rheinsberg. Astudiodd ymhellach yn Berlin, ble y cafodd nifer fawr o brofiadau gwych yn cynnwys perfformio ar lwyfan Neuadd Philharmonaidd Berlin. Bu’n chwarae rhan yr ymerawdwr Titus mewn llwyfaniad o opera Mozart La Clemenza di Tito, Tamino yn Die Zauberflöte, a Don José yn Carmen gan Bizet. Ers dod yn ôl o’r Almaen, mae Efan wedi bod gweithio fel athro ysgol gynradd ac yn cystadlu’n frwd ar lwyfanau eisteddfodau ledled Cymru gyda chymorth Delyth Hopkins-Evans ym Mhontrhydygroes. Yn 2007 ennillodd Efan yr ail wobr ar yr unawd tenor yn Eisteddfod Genedlaethol Fflint a’r Cyffiniau, ac yn 2011 bu iddo ennill y gystadleuaeth unawd tenor yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Efan is a native of Lledrod, Ceredigion. Efan has competed in many international singing competitions such as the Stuart Burrows International Voice Award, the Richard Tauber Prize, the London Welsh Young Welsh Singer Award, the W. Towyn Roberts Scholarship, and the Schloss Rheinsberg International Singing Competition. He studied further in Berlin, where he gained many wonderful opportunities, including performing on the stage of the Berlin Philharmonic, and playing the role of the emperor Titus in a production of Mozart’s opera La Clemenza di Tito,Tamino in Die Zauberflöte, and Don José in Bizet’s Carmen. Since returning from Germany, he has been regularly competing on the eisteddfod circuit, receiving singing lessons from Delyth Hopkins-Evans in Ponthrhydygroes. He has won prizes at various eisteddfodau all around Wales. In 2007 Efan won the second prize in the Tenor Solo at the Flint National Eisteddfod, and in 2011 he went one better and won the Tenor
Solo at the Wrexham National Eisteddfod, and had the honour of competing in the prestigious David Ellis Memorial Blue Riband Competition.
Efan a Barry


Côr Meibion Prysor
Sefydlwyd Côr Meibion Prysor yng nghanol y 1960au ac mae mwyafrif aelodau’r côr yn hanu o gyffiniau pentref Trawsfynydd. Mae eu hystod o gerddoriaeth a chaneuon yn cynnwys emynau, caneuon gwladgarol, cerdd dant, caneuon gwerin, ariâu yn ogystal â cherddoriaeth a chaneuon sydd wedi cael eu hanfarwoli gan gorau eraill o Gymru a’r byd. Maent yn falch o gael y cyfle i ddiddanu ardaloedd eraill yng Nghymru a thu hwnt.
Côr Meibion Prysor
Côr Meibion Prysor was established in the mid 1960’s and the majority of the choir members hail from the vicinity of village of Trawsfynydd. Their range of music and songs include hymns, patriotic songs, ‘cerdd dant’, folk songs, arias as well as music and songs that have been immortalized by other choirs from Wales and the world. They are proud to have the opportunity to entertain other areas in Wales and beyond.
Treflyn Jones (bariton)
Brodor o Borthmadog yw`r bariton Treflyn Jones. Mae`n aelod o Gôr Meibion Dwyfor a Chôr Cynhaearn ac mae wedi llwyfannu droeon fel unawdydd efo`r corau rheiny yn ogystal ā chorau Meibion Ardudwy, Meibion Prysor a`r côr merched lleol Cana-mi- Gei. Bu iddo lwyfannu droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan gipio`r wobr gyntaf ar ddau achlysur. Bu hefyd yn llwyddiannus iawn tra`n cystadlu mewn sawl gwyl gerdd yn Lloegr. Ei athro llais ers dros ugain mlynedd bellach yw Nigel Shaw, gynt o Gwmni Opera yr Alban ac Opera North. Ei gyfeilydd rheolaidd yw ei wraig Ann.
Treflyn Jones ( baritone )
Our baritone soloist tonight is Treflyn Jones of Porthmadog who is a member of Côr Meibion Dwyfor and Côr Cynhaearn. He has often presented solo performances with these choirs and with Meibion Ardudwy, Meibion Prysor and the local ladies choir Cana-mi-Gei. He has taken first prize on two occasions at the National Eisteddfod and has been coached for the last twenty years by fellow baritone Nigel Shaw, formerly of Scottish Opera and Opera North. He has also enjoyed many successes at various musical festivals in England, most notably at Chester and Hazel Grove. He is regularly accompanied on piano by his wife Ann


David Bisseker
Dechruais chwarae’r Cornet a’r Piano pryd roeddwn yn 6. Nes i ddod yn 2il yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr urdd yn Fflint 2016. Paswyd fy Gradd 8 Trwmped gyda’g Distinction yn 2023 ac paswyd fy Gradd 8 piano yn 2024.
Mi roeddwn yn Principal Cornet player o band Gwynedd a Môn o 2022 i 2024 lle chawsom 2il yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhoduan (2023) ac roeddwn yn Sun-principal cornet player Band yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog.
Mi wnes i clyweled (audition) yn Tachwedd 2023 i trio chwarae i Band Cymru ac yn 2024 lle roeddwn wedyn yn gorfod clyweled ar gyfer lle roedd saflefi yn y Band ac mi wnes i ennill lle i chwarae Solo Cornet i Band Cymru.
Paswyd fy Lefel A Cerdd, Hanes a Bagloriaeth Cymraeg yn Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli yn haf 2024 ac rŵan rwyf yn astudio gradd Cerdd (Bachelor of Music) yn Prifysgol Bangor ers Medi 2024.
Rŵan, rwyf yn gweithio at gwneud Diploma ar fy Trwmped fi.
David was born in West Bromwich although his mother is from Harlech. He started playing the Cornet and the Piano when he was 6. He came 2nd in the guild's National Eisteddfod in Flint 2016. He passed the Grade 8 Trumpet with Distinction in 2023 and Grade 8 piano in 2024. He was Principal Cornet player of the Gwynedd and Anglesey band from 2022 to 2024 where they got 2nd in the National Eisteddfod in Poduan (2023) and was Sun-principal cornet player of the Oakeley Band, Blaenau Ffestiniog. He passed his A Level Music, History and Welsh Baccalaureate at Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli in the summer of 2024 and is studying a degree in Music (Bachelor of Music) at Bangor University since September 2024. Now, he is working to do a Diploma on the Trumpet.


Mae’r cyngerdd yn cael ei arwain gan y digrifwr a’r cyflwynydd teledu Dilwyn Morgan, sy’n byw yn y Bala ac sydd bellach yn gynghorydd sir Gwynedd.
The concert is being compered by comedian and TV presenter Dilwyn Morgan, who lives in Bala and who is now a Gwynedd county councillor.